The Handmaid's Tale

The Handmaid's Tale
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMargaret Atwood Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMcClelland & Stewart Edit this on Wikidata
GwladCanada Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1985 Edit this on Wikidata
Genreffeministiaeth, Neo-Malthusianism, ffuglen hanesyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd Edit this on Wikidata
CyfresThe Handmaid's Tale Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBodily Harm Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCat's Eye Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae The Handmaid's Tale yn nofel dystopaidd[1] gan yr awdures o Ganada Margaret Atwood[2][3] a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1985. Lleolir y nofel yn y dyfodol agos yn Lloegr Newydd, mewn gwladwriaeth grefyddol totalitaraidd, ddim yn annhebyg i ddwyflwyodraeth Gristnogol, sydd wedi disodli llywodraeth yr Unol Daleithiau.[4] Mae'r nofel yn canolbwyntio ar daith y lawforwyn Offred. Mae ei henw'n deillio o'r ffurf feddiannol o "Fred"; lle mae morynion yn cael eu gwahardd rhag defnyddio eu henwau genedigol, ac yn hytrach yn cael enwau sydd yn adleisio'r dyn, neu feistr, y maent yn eu gwasanaethu.

Mae The Handmaid's Tale yn archwilio themâu o fenywod mewn darostyngiad mewn cymdeithas batriarchaidd a'r gwahanol ffyrdd y mae'r menywod hyn yn ymgeisio i ennill eu unigolyddiaeth a'u hannibyniaeth. Mae teitl y nofel yn adleisio rhannau o straeon Geoffrey Chaucer gan gynnwys rhannau o The Canterbury Tales, sef cyfres o straeon cysylltiedig ("The Merchant's Tale", "The Person Tale", ac ati.).

Mae The Handmaid's Tale wedi ei strwythuro i ddwy ran - y nos, a digwyddiadau amrywiol eraill. Gall y nofel hon gael ei dehongli fel naratif dwbl, sef hanes Offred a hanes y morynion. Mae'r adrannau yn ystod y nos yn seiliedig yn unig ar Offred, ac mae'r adrannau eraill (siopa, ystafell aros, yn y cartref, ac ati.) yn straeon sy'n disgrifio bywyd pob dydd pob morwyn, er o safbwynt Offred. Mewn llawer o'r adrannau hyn, mae Offred yn neidio rhwng y presennol a'r gorffennol wrth iddi ailadrodd y digwyddiadau sy'n arwain at golli hawliau menywod ac at fanylion presennol y bywyd y mae hi bellach yn byw.

Enillodd The Handmaid's Tale y wobr gyntaf yn Governor General's Award ym 1985 a Gwobr Arthur C. Clarke ym 1987; fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobr Nebula ym 1986, y Booker Prize ym 1986, ac ym 1987, Gwobr Prometheus. Mae'r llyfr wedi ei addasu i ffilm 1990, 2000 opera yn 2000, cyfres deledu, a chyfryngau eraill.

  1. "The Handmaid's Tale Study Guide: About Speculative Fiction". Gradesaver. 22 May 2009.
  2. Atwood, Margaret (17 June 2005). "Aliens have taken the place of angels". The Guardian. UK. If you're writing about the future and you aren't doing forecast journalism, you'll probably be writing something people will call either science fiction or speculative fiction. I like to make a distinction between science fiction proper and speculative fiction. For me, the science fiction label belongs on books with things in them that we can't yet do, such as going through a wormhole in space to another universe; and speculative fiction means a work that employs the means already to hand, such as DNA identification and credit cards, and that takes place on Planet Earth. But the terms are fluid. Some use speculative fiction as an umbrella covering science fiction and all its hyphenated forms–science fiction fantasy, and so forth–and others choose the reverse... I have written two works of science fiction or, if you prefer, speculative fiction: The Handmaid's Tale and Oryx and Crake. Here are some of the things these kinds of narratives can do that socially realistic novels cannot do.
  3. Langford 2003.
  4. Douthat, Ross (24 May 2017). "'The Handmaid's Tale and Ours'". The New York Times (yn English). Now, in the era of the Trump administration, liberal TV watchers find a perverse sort of comfort in the horrific alternate reality of the Republic of Gilead, where a cabal of theonomist Christians have established a totalitarian state that forbids women to read, sets a secret police to watch their every move and deploys them as slave-concubines to childless elites. |access-date= requires |url= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search